Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 5 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:16 - 11:40 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Keith Davies Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Karin Phillips, Is-adran Diogelwch Cymunedol Sarah Cooper, Pennaeth Cyfiawnder Ieuenctid Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Meriel Singleton (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies.
2. Sesiwn Craffu ar waith y Gweinidog : Cyfiawnder Ieuenctid
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
- Y manylion ynghlych nifer y plant sydd yn y ddalfa yng Nghymru, gan gynnwys eu lleoliad a’u rhyw.
- A wariwyd yr holl arian yn y gronfa Diogelu Cymunedau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf
- Y gyllideb refeniw cyfiawnder ieuenctid
- Cryfhau rôl y Comisiynydd Plant mewn perthynas â phlant o Gymru sydd yn y ddalfa yn Lloegr
- Nifer yr unigolion yn y ddalfa sy’n cael dedfryd o garchar yn y diwedd
3. Comisiynydd Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y Comisiynydd.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y ffaith nad oes canllawiau o hyd ar gyfer asesu anghenion gofal iechyd plant.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc blaenorol ar gyllidebu ar gyfer plant; a’r oedi o ran cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant.
4. Papurau i'w nodi
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.